Adran Dau: Forest Green Rovers 0-4 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Padraig Amond oedd y seren i Gasnewydd wrth iddyn nhw gipio'r tri phwynt
Mae Casnewydd wedi codi i'r chweched safle yn Adran Dau ar ôl buddugoliaeth swmpus oddi cartref yn Forest Green Rovers.
Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl chwarter awr o chwarae wrth i Padraig Amond roi'r bêl yng nghefn y rhwyd yn dilyn cic gornel.
Daeth ail i'r Alltudion funud cyn yr egwyl, gydag Amond yn sgorio eto yn dilyn gwaith da gan Frank Nouble.
Sicrhawyd y tri phwynt gyda goliau hwyr gan Scott Bennett a Shawn McClousky.