Cwpan Pencampwyr Ewrop: Toulon 21-20 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Colli oedd hanes y Scarlets oddi cartref yn Toulon yn eu gornest gyntaf yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, er gwaethaf ymdrech lew yn yr ail hanner.
Dechreuodd pethau'n drychinebus i'r ymwelwyr, wrth i Eric Escande ryng-gipio pas lac Aled Davies i sgorio cais gyntaf y gêm ar ôl dim ond pum munud.
Llwyddodd Anthony Belleau gyda'r trosiad, yn ogystal â chic gosb, i ymestyn mantais y tîm cartref i ddeg pwynt.
Methodd Leigh Halfpenny ei gic cyntaf am gôl, cyn cael ei anafu mewn tacl wrth i Guilhem Guirado sgorio ail gais y gwrthwynebwyr.

Guilhem Guirado yn croesi am ail gais Toulon
Yn ei absenoldeb fe lwyddodd Belleau gyda chic gosb arall, cyn i Halfpenny ddychwelyd i sgorio tri phwynt cyntaf y prynhawn i'r Scarlets ar ôl 32 munud.
Fe allen nhw fod wedi cael cais hefyd cyn yr egwyl yn dilyn cerdyn melyn Hugo Bonneval am drosedd yn y ryc, ond fe ollyngodd Johnny McNicholl y bêl wrth iddo geisio'i thirio yn y gornel.
Brwydro 'nôl
Os cafodd y Scarlets ddechrau gwael i'r hanner cyntaf roedd y gwrthwyneb yn wir am yr ail, gyda McNicholl yn casglu cic letraws Rhys Patchell i sgorio dan y pyst dau funud wedi i'r ornest ailddechrau.
O fewn pum munud roedd y fantais wedi'i lleihau i bwynt, gyda Halfpenny yn canfod bwlch a chroesi yn erbyn ei gyn-glwb cyn ychwanegu'r trosiad ei hun.
Gydag 20 munud i fynd fe aeth y Scarlets ar y blaen am y tro cyntaf, gyda Halfpenny'n llwyddo gydag ail gic gosb, cyn i'r eilydd Francois Trinh-Duc drosi ei gic gyntaf yntau i roi'r fantais yn ôl i Toulon.

Cafodd Halfpenny gyfle arall i roi'r ymwelwyr ar y blaen gyda 12 munud i fynd, ond am yr ail waith fe fethodd gyda'i gic gosb.
Parhaodd Toulon i bwyso, ac fe ddaethon nhw'n agos at amddifadu'r Scarlets o bwynt bonws ar y diwedd, ond er gwaethaf cerdyn melyn i Tadhg Beirne fe ddaliodd y Cymry ymlaen.
Yng ngêm arall y grŵp ddydd Sadwrn fe wnaeth Caerfaddon drechu Treviso gartref o 23-0.