Diffyg cytundeb Brexit yn 'drychinebus' i'r DU
- Cyhoeddwyd

Bydd diffyg cytundeb Brexit gyda'r Undeb Ewropeaidd yn "drychinebus" i'r DU yn ôl Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford y byddai methiant i gyrraedd cytundeb yn cael "sgil effeithiau enbyd economaidd, cymdeithasol ac o ran diogelwch".
Roedd Mr Darkeford yn siarad cyn cyfarfod gyda llefarydd Senedd Ewrop dros Brexit, Guy Verhofstadt ym Mrwsel.
Dywedodd y Prif Weinidog Theresa May bod ei gweinidogion yn paratoi ar gyfer "pob posibilrwydd", gan gynnwys dim cytundeb.
'Camau cadarnhaol'
Daw wedi i Mr Drakeford gwrdd â gweinidogion o'r DU a'r Alban ddydd Llun.
Yn dilyn y cyfarfod dywedodd dirprwy Theresa May, Damian Green bod "cam sylweddol ymlaen" wedi bod yn y trafodaethau.
Er i Mr Green ddweud bod unrhyw sôn am "ymgais i gipio pŵer" wedi mynd, dywedodd Mr Drakeford nad yw Llywodraeth Cymru wedi diystyru gwrthwynebu'r Mesur Diddymu.

Dywedodd Damian Green bod unrhyw son am "ymgais i gipio pŵer" wedi mynd
Mae'r ddwy lywodraeth hefyd yn anghytuno ynglŷn â'r posibilrwydd na fydd y DU yn cyrraedd cytundeb gyda'r UE.
Mae'r prif weinidog wedi dweud bod ei gweinidogion yn paratoi ar gyfer pob canlyniad yn nhrafodaethau Brexit, gan gynnwys dim cytundeb o gwbl.
Ond mae Mr Drakeford wedi pwysleisio ei fod yn "gamsyniad peryglus" bod cael dim bargen o gwbl yn ganlyniad posib.
'Ansicrwydd'
Ychwanegodd Mr Drakeford ei bod hi'n "bwysig i drafodaethau rhwng y DU a'r 27 gwlad sydd yn yr UE barhau cyn gynted â phosib".
"Mae hyder busnesau yn dioddef yn barod oherwydd ansicrwydd," meddai.
Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i "ddangos tystiolaeth pam bydd aros y tu allan i undeb y tollau gyda'r UE yn fantais hirdymor i'r DU".
Yn y cynlluniau Brexit gafodd eu hysgrifennu ar y cyd gyda Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod "aros yn rhan o undeb tollau'r UE yn parhau'r opsiwn orau i Gymru ac i fusnesau'r DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2017
