Cyngor Powys yn gwario £220,000 i newid peiriannau parcio

  • Cyhoeddwyd
Peiriant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Gyngor Powys newid 55 o beiriannau talu ac arddangos yn eu meysydd parcio

Mae newid peiriannau parcio fel eu bod nhw'n derbyn y darn punt newydd wedi costio £220,000 i Gyngor Powys.

Dywedodd y cyngor eu bod wedi newid 55 o beiriannau talu ac arddangos ac wedi diweddaru dau arall dros yr haf.

Gwariodd nifer o gynghorau ar draws Cymru filoedd o bunnau i addasu'r dechnoleg, yn ôl gwybodaeth ddaeth i law Newyddion 9, ond bil Powys oedd y mwyaf o bell ffordd.

Yn ôl y cyngor, roedd y rhan fwyaf o'r peiriannau yn hen ac mewn cyflwr gwael, gyda dim posibilrwydd eu diweddaru fel eu bod nhw'n gallu cymryd y darn arian newydd.

Er hynny, mae'r awdurdod yn disgwyl mwy o incwm o'r ffioedd parcio na'r gost o'u newid. Yn 2016-17, cafodd y sir bron i £1.3m mewn taliadau parcio.

Cafodd Newyddion 9 ddim ffigyrau penodol gan holl gynghorau Cymru, ond roedd y gost yn y miloedd mewn nifer o siroedd. Talodd Castell-nedd Port Talbot £5,000, gyda Gwynedd yn talu £7,000 a Sir Fynwy tua £8,800.