Carwyn Jones: Angen 'etholiad arall heb dêl Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd sylwadau'r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, fod Brexit yn gyfle i adael i "Lew Prydain ruo" yn "nonsens" medd Carwyn Jones

Fe fydd yn rhaid cynnal etholiad cyffredinol arall yn 2019 os yw Theresa May yn methu sicrhau cytundeb Brexit, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Yn siarad ar raglen S4C O'r Senedd, cyhuddodd Mr Jones Lywodraeth Prydain o fynnu glynu at ddarlun afrealistig o safle Prydain yn y byd, gan ddweud fod y DU yn "llai na Fietnam".

Mae Prydain yn bwriadu gadael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2019, ond mae'r trafodaethau gyda'r 27 wladwriaeth arall ar faterion fel masnach a thaliadau i'r gyllideb eto i ddwyn ffrwyth.

Mae rhai ASau wedi galw ar Mrs May i fygwth gadael heb arwyddo unrhyw gytundeb, ond mae eraill wedi awgrymu byddai hynny'n arwain at gyflafan economaidd.

'Nonsens'

Dywedodd Carwyn Jones: "Os oes dim byd yn digwydd a does dim cytundeb, wedyn Brexit caled fydd hi. Ond fydd hynny'n fethiant llwyr gan lywodraeth San Steffan.

"I fi, fydde'n rhaid cael etholiad cyffredinol cynnar er mwyn i bobol fynegi barn ar y ffaith eu bod nhw wedi methu.

"Ond mae hyn yn broblem. Does dim un person yn Llundain nawr sy' â'r awdurdod i yrru hyn ymlaen."

Fe alwodd Mrs May etholiad cyffredinol yn gynharach eleni, llai na dwy flynedd ers yr etholiad cyffredinol blaenorol.

Theresa MayFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Theresa May wedi dweud ei bod eisiau gweld cynnydd yn nhrafodaethau Brexit

Yn sgil hynny fe gollodd y Ceidwadwyr eu mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae Carwyn Jones wedi disgrifio sylwadau yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, fod Brexit yn gyfle i adael i "Lew Prydain ruo" fel "nonsens."

"Mae'n rhaid i ni fod yn realistic fan hyn," meddai. "Dyw'r byd ddim yn mynd i droi rownd i ni a dweud 'ni'n mynd i helpu chi mas o achos y ffaith taw Prydain 'y chi.'

'Prydain yn fach'

"Nid fel 'na mae'r byd rhagor.

"Mae Prydain yn fach. Mae Prydain yn llai na Fietnam. Hanner seis Japan.

"Mae'n rhaid i ni fod yn realistic, a mae'n holl-bwysig fod Brexit yn cael ei yrru gan bobl sy'n synhwyrol, sy'n bragmatig a nid pobol sy'n genedlaetholwyr.

"Mae'r cenedlaetholwyr mwyaf yn San Steffan ac yn Whitehall, a nid yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig."

Bydd cyfle i weld O'r Senedd ar S4C Nos Fawrth am 2200