Teyrnged i David Walker wedi gwrthdrawiad Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
Bu farw David Walker, 48 oed, yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng beic modur a bws ar Heol Caerffili yn ardal Birchgrove.
Wrth roi teyrnged, dywedodd ei deulu: "Mae'r teulu cyfan yn torri eu calonnau wedi marwolaeth sydyn David, oedd yn ŵr cariadus a chlên ac yn dad i ddwy ferch brydferth."
Cafodd dyn 58 oed ei arestio wedi'r gwrthdrawiad, ac mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2017
