Cofio 30 mlynedd ers damwain trên angheuol pont Glanrhyd
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y ddamwain ar ôl i ran o'r bont gwympo i'r Afon Tywi
Mae pobl Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn cofio digwyddiadau 30 mlynedd yn ôl pan gafodd pedwar o bobl eu lladd ar ôl i drên yn cludo teithwyr ddisgyn i Afon Tywi.
Digwyddodd y ddamwain ar 19 Hydref 1987 ar ôl i ran o bont Glanrhyd, rhwng Llandeilo a Llanymddyfri, gael ei chwalu gan yr afon.
Daeth y digwyddiad ar ôl cyfnod o law trwm a llifogydd.
Ar wahân i'r gwasanaethau brys, ymysg y rhai cyntaf ar safle'r ddamwain oedd gohebwyr BBC Cymru Gilbert John ac Alun Lenny.
Y cyn-ohebydd Alun Lenny, yn hel atgofion am ddamwain
"Ar y pryd rhaid i chi gofio, doedd 'na ddim ffonau symudol, a ro'n i wedi cael fy anfon i adrodd ar ddamwain trên - doedd dim sôn am farwolaethau na bod pobl ar y trên," meddai Gilbert John, wrth gofio nôl i'r diwrnod hwnnw.
"Digwyddais daro mewn i griw tân oedd yn rhan o'r ymdrech achub, fe wnes i ddweud ei bod hi'n lwcus na chafodd unrhyw un anaf, a daeth yr ateb 'be ti'n feddwl, mae pedwar o bobl yn sownd, mae'n siŵr eu bod wedi marw'."
Roedd y trên o Amwythig i Abertawe yn teithio drwy ganolbarth Cymru ac yn cludo peirianwyr y rheilffyrdd yn ogystal â theithwyr cyffredin.
Roedd y peirianwyr wedi'u hanfon i asesu cyflwr y lein yn dilyn y glaw trwm a'r llifogydd.

Roedd lefel Afon Tywi yn uchel iawn yn dilyn cyfnod o law trwm
Dywedodd Mr John iddo gael sioc o glywed y newyddion fod pob dal ar y trên.
"Dwi'n cofio rhedeg i'r tŷ agosaf a gofyn i'r ddynes am ganiatâd i ddefnyddio ei ffôn i alw'r BBC," meddai.
"Dyna'r cyntaf i wasanaeth newyddion y BBC gael gwybod bod y ddamwain yn un angheuol."

Mae Gilbert John yn parhau mewn cysylltiad â theulu gyrrwr y trên
'Gweithio shifft rhywun arall'
Roedd y trên, oedd yn cynnwys dau gerbyd, wedi cwympo i'r afon o'r hyn oedd yn weddill o'r bont.
Bu farw bachgen ysgol 14 oed, cwpl oedrannus ynghyd â gyrrwr y trên.
"Fe wnaeth teulu'r gyrrwr fy ffonio yr wythnos hon i atgoffa o'r digwyddiadau 30 mlynedd yn ôl," meddai Mr John.
"Dywedodd nai y gyrrwr wrthai nad oedd ei ewythr i fod yn gweithio y diwrnod hwnnw ond roedd wedi cytuno gweithio shifft rhywun arall."
Dai Gealy, cyn athro Saesneg yng Ngholeg Llanymddyfri yn cofio y diwrnod pan glywodd yr ysgol am farwoaleth Simon Michel Penny, 14 oed, un o'r pedwar a fu farw yn namwain tren Pont Glanrhyd.
Un welodd yr hyn ddigwyddodd y diwrnod hwnnw oedd ffermwr lleol, y diweddar Carwyn Davies, oedd hefyd yn chwaraewr rygbi rhyngwladol.
Roedd yn y caeau ben bore gyda'i anifeiliaid pan welodd fod y bont wedi cwympo.
Cyn iddo gyrraedd ei dŷ i ffonio'r awdurdodau gwelodd y trên yn agosáu at y dibyn ac yn cwympo i'r afon.
Ar ôl y ddamwain clywodd cwest bod lefel yr afon yn uchel a'i bod wedi difrodi seiliau'r bont a'u gwanhau.
Bu newid yn y rheolau diogelwch er mwyn sicrhau na fyddai damwain o'r fath yn digwydd eto.

Mae pont newydd wedi ei hadeiladu yn lle'r hen bont dros Afon Tywi