Dadorchuddio cofeb i'r pregethwr Myfyr Emlyn
- Cyhoeddwyd

Fe fydd cofeb yn cael ei dadorchuddio pnawn dydd Sadwrn i Myfyr Emlyn, neu'r Parchedig Benjamin Thomas.
Roedd Myfyr Emlyn yn bregethwr enwog yn ystod y 19eg ganrif, a hefyd yn fardd, darlithydd ac awdur.
Fe'i ganwyd yn Tyrhos, Eglwyswen, Sir Benfro ym 1836.
Bu'n Weinidog ar Gapel y Graig, Castellnewydd Emlyn, Tabernacl, Penarth a hefyd ym Methesda, Arberth.
'Bwysig cofio'
Bu'n olygydd Seren Cymru o 1887 hyd iddo farw ym 1893.
Dywedodd Mark Cole: "Roedd e'n bwysig iawn yn hanes y Cymry Cymraeg.. ac roedd unrhyw un oedd yn byw yn yr ardal yr amser 'ny yn ymwybodol o Myfyr Emlyn. Fe oedd yr unig weinidog Cymraeg i gyfrannu i'r Pulput Commentary. Mae'n bwysig i ni fel cymuned i gofio'r hanes."
Cymdeithas Hanes a Threftadaeth Eglwyswrw sydd wedi trefnu'r digwyddiad yng Nghapel Bethabara, Pontyglasier am 13:30 ar bnawn dydd Sadwrn.

Roedd capel Bethabara ym Mhontyglasier yn bwysig i Myfyr Emlyn (canol trydedd res)
Fe fydd y gofeb newydd yn cael ei dadorchuddio ym mynwent y Capel ar ôl y gwasanaeth.
Fe fydd rhai o gerddi ac emynau Myfyr Emlyn yn cael eu perfformio yn ystod y gwasanaeth, gan gynnwys cân yr Hen Gerddor fydd yn cael ei chanu gan Robert Jenkins o Aberteifi.
Er nad oedd yn weinidog yng Nghapel Bethabara, roedd y capel yn bwysig iawn i Myfyr Emlyn. Roedd ei Fam a'i Dad, David ac Elizabeth Thomas, yn rhai o sylfaenwyr y capel.
Mi fydd hen hen wyres i Myfyr Emlyn - Monica Sheaf - yn teithio o Sir Rhydychen i ddadorchuddio'r gofeb.
Yn ôl Enid Cole, Cadeirydd y Gymdeithas: "Roedd achos y Bedyddwyr yn gryf yn ei deulu.. roedd nifer o'i berthnasau yn bregethwyr ac roedd Bethabara yn bwysig iawn yn y teulu."