Cwpan Pencampwyr Ewrop: Scarlets 13-18 Caerfaddon

  • Cyhoeddwyd
Rhys PriestlandFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Cyn-faswr y Scarlets, Rhys Priestland, oedd seren y gêm

GanIlltud Dafydd
Chwaraeon BBC Cymru

Fe wnaeth Y Scarlets golli am yr eildro o fewn pum diwrnod yn erbyn Caerfaddon nos Wener yn eu hail gêm yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop mewn amodau gwlyb ar Barc y Scarlets.

Fe serennodd maswr Cymru Rhys Priestland dros yr ymwelwyr, gan sgorio chwe gôl gosb i hawlio ail fuddugoliaeth y tîm o Loegr yn y gystadleuaeth y tymor yma.

Daeth pwyntiau'r Cymry drwy gais Steff Evans a dwy gôl gosb a throsiad Leigh Halfpenny.

Mae'r golled yn ergyd i obeithion y Scarlets o gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Bydd Treviso yn croesawu Toulon yng ngêm arall y grŵp brynhawn Sadwrn.

ScarletsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr asgellwr Steff Evans sgoriodd unig gais y gêm