Middlesbrough 0-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Joe RallsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Joe Ralls yn dathlu gyda'r cefnogwyr

Mae Caerdydd yn aros yn yr ail safle yn y bencampwriaeth ar ôl curo Middlesbrough yn stadiwm Riverside.

Sgoriodd Joe Ralls yr unig gôl ar ôl 84 munud - cic gosb wedi i Nathaniel Mendez-Laing gael ei lorio gan Adam Traore yn y cwrt cosbi.

Cafodd Danny Ward gyfle da i sgorio i Gaerdydd yn gynharach yn y gêm, ond fe gymerodd Ralls ei gyfle o'r smotyn, gan ddanfon y gôl geidwad i'r cyfeiriad anghywir.

joeFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Tacl gadarn Joe Bennett yn atal ymosodiad gan Middlesbrough