Cau twnnel ar reilffordd Dyffryn Conwy wedi stormydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd trampolîn ei chwythu ar y rheilffordd gan wyntoedd cryfion yr wythnos ddiwethaf
Mae newid i rai gwasanaethau trenau'r wythnos hon, oherwydd difrod yn sgil stormydd Brian ac Ophelia yr wythnos ddiwethaf.
Mae Network Rail wedi cadarnhau bod disgwyl i dwnnel rheilffordd rhwng Blaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno barhau ar gau am weddill yr wythnos oherwydd gwaith atgyweirio yn dilyn y stormydd.
Fe gafodd ardaloedd arfordirol eu difrodi wrth i Storm Brian daro, a hynny lai nag wythnos ar ôl corwynt Ophelia.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru eu bod yn gwneud gwaith atgyweirio ar draws y rhwydwaith, ac y bydd nifer o wasanaethau eraill ar draws Cymru'n debyg o weld oedi.
Mae'r cwmni'n annog pawb i wirio'u teithiau cyn gadael cartre', ac fe fydd rhai trenau hefyd yn rhedeg gyda llai o gerbydau.
Bydd gwasanaethau bws hefyd yn rhedeg rhwng y gorsafoedd lle mae'r rheilffordd wedi cau hyd nes bydd y gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2017

- Cyhoeddwyd22 Hydref 2017

- Cyhoeddwyd21 Hydref 2017

- Cyhoeddwyd20 Hydref 2017
