M4: Oedi hir ger Caerdydd wedi gwrthdrawiad difrifol

  • Cyhoeddwyd
Ciw

Roedd oedi hir ar y ffyrdd yn ardal Caerdydd yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 fore Mawrth.

Cafodd gyrrwr beic modur ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru mewn cyflwr difrifol wedi'r digwyddiad ger C33 tua 07:15.

Ers tua 11:30 mae'r M4 wedi ailagor, wedi i'r holl lonydd i'r gorllewin rhwng C29 a C33 fod ynghau am rai oriau yn ystod y bore.

Cafodd ffyrdd eraill yn y ddinas eu heffeithio wrth i draffig gael ei ddargyfeirio.

Presentational grey line

Roedd oedi hir ar nifer o ffyrdd fore Mawrth, wnaeth glirio yn ystod y dydd:

  • Oedi ar yr M4 i'r dwyrain wrth i bobl arafu yn ardal y gwrthdrawiad;

  • Oedi oherwydd traffig yn ciwio ar yr A470 i'r de rhwng cylchfan Abercynon a Choryton;

  • Traffig yn ciwio ar yr A473 ym Mhentre Eglwys, Rhondda Cynon Taf a'r B4262 yn Nhreforgan, Caerdydd;

  • Traffig araf ar A4054 yn Nhongwynlais, Caerdydd.

C29Ffynhonnell y llun, Traffic Camera Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mae traffig yn ciwio ar yr M4 i'r gorllewin ger C29, Casnewydd

Presentational grey line

Dywedodd Maes Awyr Caerdydd y dylai teithwyr "neilltuo mwy o amser... achos traffig trwm ar draws Caerdydd" ac fe wnaeth Maes Awyr Bryste hefyd rybuddio bod angen mwy o amser i deithio.

Cafodd gwasanaethau bws hefyd eu heffeithio. Dywedodd cwmni Bws Caerdydd bod "effaith mawr ar draffig" tra fod Stagecoach yn dweud bod "oedi difrifol i wasanaethau 132, 136 [a] 124".

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan De Cymru

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan De Cymru