Trafod cymeradwyo setliad ariannol i ddau swyddog cyngor

  • Cyhoeddwyd
Anthony O'Sullivan, Nigel Barnett a Daniel Perkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi dod a'r ymchwiliad yn erbyn Anthony O'Sullivan, Nigel Barnett a Daniel Perkins i ben

Bydd cyfarfod arbennig o Gyngor Caerffili yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf i drafod a ddylid cymeradwyo setliad ariannol ar gyfer dau uwch swyddog sydd wedi eu hatal o'r gwaith ar gyflog llawn ers sawl blwyddyn.

Cafodd Dirprwy Brif Weithredwr y Cyngor, Nigel Barnett a'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Daniel Perkins, eu hatal o'r gwaith yn 2013, ar ôl adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru i godiadau cyflog uwch swyddogion y cyngor.

Mae cyn-Brif Weithredwr y cyngor, Anthony O'Sullivan, hefyd wedi bod yn absennol o'r gwaith oherwydd "amgylchiadau arbennig".

Yr honiad yw bod y tri swyddog wedi rhoi codiad cyflog o 20% i'w hunain ym mis Medi 2012, mewn cyfnod pan fod cyflogau'r rhan fwyaf o staff y cyngor wedi rhewi.

Gollwng ymchwiliad heddlu

Fe arweiniodd yr honiadau at ymchwiliad troseddol gan yr heddlu, ond fe gafodd yr ymchwiliad ei ollwng yn 2015.

Mae ymchwiliad mewnol wedi bod yn mynd rhagddo, ond nawr mae cais wedi ei gyflwyno i gynghorwyr yn gofyn iddynt gymeradwyo cytundebau ar gyfer Mr Barnett a Mr Perkins.

Nid yw maint y cytundebau ariannol na'r telerau'n wybodaeth gyhoeddus ar hyn o bryd, ond disgwylir iddynt fod yn symiau sylweddol.

Mae'r adroddiad sydd wedi ei gyflwyno i gynghorwyr yn nodi fod "cost y cynigion yma, yn y ddau achos, yn llai na chost parhau â'r ymchwiliad".

Nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch a yw setliad arall gydag Anthony O'Sullivan yn debygol o ddod yn y dyfodol agos.

Mae cost gyffredinol yr achos i Gyngor Caerffili wedi rhedeg i filiynau o bunnoedd erbyn hyn.

Straeon perthnasol