Pryder am y cynnydd mewn galw am lety brys

  • Cyhoeddwyd
BedsitFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwestai gwely a brecwast yn aml yn cael eu defnyddio fel llety brys

Mae pryder am y galw cynyddol am lety brys a dros dro ar draws Cymru, yn ôl awdurdodau lleol.

Daw wrth i Gyngor Conwy drafod gorwariant o £200,000 yn ei gyllid llety brys.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) bod graddfa'r her ar lefel genedlaethol yn cynyddu.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei fod wedi clustnodi £20m yn rhagor o gyllid i fynd i'r afael â'r broblem dros y ddwy flynedd nesaf.

Cynnydd 33% yn y galw

Yn ôl adroddiad fydd gerbron cynghorwyr ddydd iau, fe wnaeth y galw am wasanaeth llety Cyngor Conwy gynyddu 33% rhwng Ebrill 2015 a Mawrth eleni.

Daw'r cynnydd ers i Ddeddf Tai Cymru 2014 gyflwyno cyfrifoldebau newydd ar gynghorau i atal a lleddfu digartrefedd.

Roedd gan Gyngor Conwy gyllid o £225,000 ar gyfer llety brys y llynedd, ond fe wnaethon nhw wario £50,000 yn fwy na hynny.

Mae'r cyngor nawr yn disgwyl y bydd y costau hynny'n codi i £425,000 ar gyfer 2017-18 - £200,000 yn fwy na'r cyllid sydd wedi'i ddynodi ar ei gyfer.

'Graddfa'r her yn cynyddu'

Dywedodd llefarydd CLlLC ar dai, ac arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton bod "pryder cynyddol, mewn gwirionedd, ledled Cymru".

"Mae'r ystadegau ar gyfer y 12 mis diwethaf yn dangos cynnydd o 29% yn y rheiny sy'n dweud eu bod mewn perygl o golli eu cartref, ac mae hynny'n gynnydd sylweddol mewn un flwyddyn yn unig.

"Rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol ledled Cymru yn atal digartrefedd yn llwyddiannus, ond mae graddfa'r her yn cynyddu."

Aaron Shotton
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aaron Shotton bod "pryder cynyddol, mewn gwirionedd, ledled Cymru"

Dywedodd elusen Crisis ym mis Awst y gallai digartrefedd yng Nghymru gynyddu o draean yn y flwyddyn nesaf.

Mae'r prif weithredwr, John Sparkes, hefyd yn dweud bod y defnydd o lety dros dro yn "destun pryder" i'r elusen.

"Mae'r math yma o lety yn aml yn anaddas, ac weithiau hyd yn oed yn beryglus," meddai.

"Mae pobl sy'n sownd mewn llety dros dro yn byw eu bywydau mewn limbo - dydyn nhw ddim yn gwybod sut na phryd y byddan nhw'n gallu symud i gartref parhaol."

Ar ddiwedd Mehefin 2017 roedd 1,980 o deuluoedd neu unigolion mewn llety dros dro - 207 o'r rheiny mewn gwestai gwely a brecwast, gan gynnwys 27 o deuluoedd gyda phlant.

Mwy ynteu llai o gyllid?

Roedd cyllideb ddrafft newydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys £10m yn rhagor am y ddwy flynedd nesaf i fynd i'r afael â digartrefedd.

Ond mae pryderon wedi cael eu codi y gallai'r arian sydd ar gael i helpu pobl fregus gyda'u cartrefi ostwng, wedi iddi ddod i'r amlwg na fydd cynllun £125m bellach yn cael ei glustnodi.

Bydd yr arian yn cael ei gyfuno gyda chronfeydd eraill, gan roi mwy o ryddid i gynghorau benderfynu sut i'w wario.

B&BFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar ddiwedd Mehefin roedd 207 o deuluoedd neu unigolion mewn llety dros dro mewn gwestai gwely a brecwast

Galwodd Mr Shotton ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu'r cyllid ar atal digartrefedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi atal digartrefedd i fwy na 11,000 o bobl yn y ddwy flynedd ers i'r ddeddf tai newydd gael ei chyflwyno.

Ond mae'n cydnabod bod mwy o bobl yn gwneud cais am help, a'u bod felly wedi cyhoeddi'r £10m yn rhagor am y ddwy flynedd nesaf.

"Mae hyn ar ben £2.6m yn rhagor y flwyddyn ariannol hon i fwy na 60 o gynlluniau sy'n canolbwyntio ar gysgu ar y stryd a digartrefedd ymhlith pobl ifanc," meddai llefarydd.

Straeon perthnasol