Honiadau actores ifanc am ymddygiad cyfarwyddwr o Gymru
Mae actores ifanc yn dweud na fyddai hi'n gweithio i un cyfarwyddwr ffilm a theledu o Gymru am ei fod wedi gofyn "cwestiynau rhywiol" a "phersonol" i rai o'i ffrindiau yn y diwydiant.
Dywedodd yr actores - oedd yn siarad yn anhysbys gyda Newyddion 9 - bod y diwylliant o ymddwyn yn amhriodol "dal yn bodoli".
Mae ei chyfweliad wedi'i ail-greu uchod gydag aelod o'r tîm cynhyrchu actio rhan yr actores.