Y ddwy Gatalunya
- Cyhoeddwyd

Bon dia o'r ddwy Gatalunya. Y weriniaeth annibynnol a'r rhanbarth y mae gafael Madrid arni'n dynnach nag erioed.
"Mwynhewch annibyniaeth tra bod e'n para" meddai gweinydd mewn bwyty neithiwr.
Os nad oedd pawb yn dathlu roedd pawb yn ymwybodol bod ddoe'n ddiwrnod tyngedfennol fel bydd y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
Eisoes mae Sbaen 'di dangos ei dannedd gan ddiddymu llywodraeth Catalunya a diswyddo pennaeth heddlu'r rhanbarth.
Dyma'r unig ffordd, meddai'r Prif Weinidog Mariano Rajoy, o adfer cyfraith gwlad yno.
Mae nifer, fel y rheolwr bwyty Esteban Marin Ferrer yn cytuno. "Mae'r ansicrwydd a'r dadlau'n ddrwg i fusnes" meddai. "Dyw pobl ddim yn mynd mas i fwyta achos dy'n nhw ddim ishe gwario a dyw ymwelwyr ddim ishe dod i Barcelona."
Mae e'n croesawu cynnal etholiad i ddod a'r dadlau i ben ond go brin y bydd hynny'n digwydd os yw'r pleidiau sy'n cefnogi annibyniaeth yn dal eu tir neu hyd yn oed yn ennill tir.
Rhybudd i beidio defnyddio trais
Dyna mae Mireia Huerta Sala o gymdeithas llywodraeth leol Catalunya yn ei weld yn digwydd. "Trais Madrid a sathru ar ein hawliau sydd i gyfri am hynny" meddai.
"Mae 700 o tua 900 o gynghorau lleol yn cefnogi'r llywodraeth" meddai.
Tra bod y gymuned ryngwladol yn cefnogi undod Sbaen mae 'na rybudd hefyd i beidio â defnyddio trais yn enw trefn.
Os yw hynny'n digwydd eto bydd fawr o ddewis gan y gymuned ryngwladol ond dod a'r ddwy ochr ynghyd.
Dyw e hi ddim yn ymddangos bod ganddyn nhw'r gallu na'r ewyllys i wneud hynny eu hunain.

Pleidleisiodd Senedd Catalunya o blaid annibyniaeth