Pro14: Scarlets 30-17 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Hadleigh ParkesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Hadleigh Parkes yn sgorio cais i'r Scarlets yn yr hanner cyntaf

Mae'r Scarlets yn parhau i lwyddo yn y Pro14 wrth iddyn nhw drechu'r Gleision yn Llanelli.

Ar ôl colli yn erbyn Toulon a Chaerfaddon yn ddiweddar, roedd angen buddugoliaeth arnyn nhw yn erbyn Gleision Caerdydd nos Sadwrn.

Roedd gan y Scarlets fantais o 15 pwynt ar yr egwyl, wrth i Hadleigh Parkes a Ryan Elias sgorio cais yr un.

Brwydrodd tîm y brifddinas yn ôl wrth i Willis Halaholo a Lloyd Williams sgorio yn yr ail hanner.

Ond yna fe ddaeth dau gais i'r Scarlets, gyda Jonathan Evans a Steff Evans yn sgorio i sicrhau pwynt bonws a mantais o dri phwynt i'r Scarlets ar ben Adran B y Pro14.

Lloyd WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mewnwr y Gleision Lloyd Williams yn taro 'nol i'r Gleision