Cyhuddo dyn yn dilyn digwyddiad yn Ystradgynlais
- Cyhoeddwyd

Heol y Gwynt yn Ystradgynlais
Bydd dyn 33 oed yn ymddangos ger bron ynadon Merthyr Tudful ddydd Llun yn dilyn digwyddiad honedig yn Ystradgynlais dydd Gwener.
Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd y Gwynt yn dilyn adroddiadau bod ymgais wedi ei wneud i gipio merch ysgol.
Mae;r dyn yn wynebu cyhuddiad o garcharu ar gam.
Mae'r heddlu wedi diolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad yn dilyn y digwyddiad.