Pryder am swyddi 'yn cael effaith ar iechyd meddwl'
- Cyhoeddwyd

Mae gwaith ymchwil gan un o raglenni BBC Cymru yn awgrymu bod pryderon am swyddi yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl rhan helaeth y boblogaeth.
Yn ôl croestoriad o weithwyr a holwyd gan raglen deledu The Hour, roedd 74% yn cytuno bod poeni am waith neu arian yn cael effaith negyddol.
Dywedodd yr Athro David Blackaby o adran economeg Prifysgol Abertawe mai natur gyfnewidiol y byd gwaith ac ansicrwydd ehangach oedd yn cyfrannu at yr anfodlonrwydd.
"Mae hyn yn dangos effaith swyddi tymor byr neu swyddi dim oriau ar weithwyr yng Nghymru, a diffyg sicrwydd pobl yn eu swyddi," meddai.
'Pwnc i'w osgoi'
Roedd cymaint â 80% o bobl rhwng 16-34 oed, a 78% o bobl rhwng 35-74 oed, gafodd eu holi yn yr arolwg yn cytuno bod poeni am waith neu arian yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.
Dywedodd Sara Moseley, cyfarwyddwr Mind Cymru: "Mae'n bryderus iawn fod cymaint â thri chwarter y bobl sydd o oed gwaith yng Nghymru yn teimlo bod eu gwaith yn cael effaith ar eu hiechyd meddwl.
"Mewn llawer o weithleoedd mae iechyd meddwl yn parhau i fod yn bwnc i'w osgoi ac mewn sawl achos dyw cyflogwyr ddim yn deall y rôl hollbwysig sydd ganddynt, a d'yn nhw ddim yn gwybod lle i fynd am gyngor neu gefnogaeth."
Yn yr arolwg llawn fe holwyd 1,005 o bobl mewn sawl ardal yng Nghymru rhwng 13 Hydref a 22 Hydref eleni. 556 o bobl wnaeth ateb y cwestiwn ar effaith gwaith.
Bydd rhaglen deledu The Hour yn trafod y pwnc ar BBC One Wales am 22:40 nos Lun.