Carcharu seren rhaglen The Valleys am ddelio cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-seren rhaglen deledu realiti wedi ei garcharu am 22 mis ar ôl cael ei ganfod yn euog o ddelio cyffuriau.
Roedd Leeroy Reed, 27, yn un o gast rhaglen The Valleys ar MTV, ac fe geisiodd hefyd ddilyn gyrfa fel rapiwr.
Cafodd ei arestio ym mis Awst ynghyd â dau aelod arall o'r giang oedd wedi bod yn delio canabis a chocên yn ardal Porthcawl.
Roedd yr heddlu wedi arestio un ohonynt, Owen Morgan, cyn chwilio'i gartref a chanfod negeseuon oedd yn ei gysylltu i Reed a dyn arall, Harry Griffiths.
'Lwc yn troi'
Yn Llys y Goron Caerdydd fe wnaeth Reed, o Gorneli, gyfaddef dosbarthu cyffuriau Dosbarth A a chael dedfryd o 22 mis dan glo.
Cafodd Morgan, 23 ac o Borthcawl, ei garcharu am 30 mis ac fe gafodd Griffiths, 19 a hefyd o Borthcawl, ddedfryd ohiriedig o 12 mis.
Ddyddiau cyn iddo ymddangos yn y llys roedd Reed wedi trydar neges yn dweud bod ei "lwc i'n troi yn ara' deg".