Pentref yn cofio trychineb argae dros 90 mlynedd yn ôl
- Cyhoeddwyd

Mae cofeb wedi ei gosod yn yr ardd goffa i gofio dyddiad y drychineb
Mae gardd goffa wedi cael ei hadnewyddu cyn gwasanaeth i gofio 16 o bobl fu farw wedi i argae ddymchwel yn dilyn glaw trwm yn sir Conwy dros 90 mlynedd yn ôl.
Bu farw chwe phlentyn pan lifodd y dŵr drwy bentref Dolgarrog ar 2 Tachwedd 1925.
Mae'r gymuned bellach wedi derbyn £22,000 mewn grantiau i adnewyddu llwybr a gardd.
Mae cofeb hefyd wedi'i gosod yn y ganolfan gymunedol i gofio am y trychineb.

Mae llwybr wedi'i osod o amgylch y rwbel a lifodd gyda'r dŵr wedi i'r argae fethu.
Fe lifodd y dŵr wedi i argae Eigiau fethu yn dilyn pythefnos o law trwm.
Am 20:45 llifodd y dŵr dros argae Coedty gan achosi llifogydd a rwbel i lifo i'r pentref.
O fewn 20 munud roedd y brif ffordd dan ddŵr ac roedd adeiladau gan gynnwys yr eglwys a siopau yn cael eu cario yn y cerrynt.