Beiciwr modur yn marw wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Plsimyn yn cael eu galw i'r ddamwain toc cyn 16:00 ddydd Gwener
Mae beiciwr modur wedi marw wedi gwrthdrawiad â char yn Abertawe.
Dywedodd Heddlu'r De bod y dyn 26 oed wedi marw ar yr A4067 wedi gwrthdrawiad â Fiat Punto a oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall.
Fe achosodd y digwyddiad dagfeydd traffig i'r ddau gyfeiriad ar yr M4 ac mae'r heddlu yn diolch i yrwyr am eu hamynedd.
Mae galw ar unrhyw un a welodd y ddamwain neu'r beic modur cyn y ddamwain i gysylltu â'r heddlu.