Pro14: Caeredin 37-10 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Magnus Bradley yn sicrhau sgorio i Gaeredin
Mae'r Gweilch wedi disgyn i waelod Adran A y Pro14 ar ôl colli oddi cartref yng Nghaeredin.
Fe ddechreuodd yr hanner cyntaf yn dda i'r Gweilch wrth i Dmitri Arhip sgorio cais a sicrhau trosiad hawdd i Sam Davies.
Ciciodd Jason Tovey dri phwynt i Gaeredin yn dilyn trosedd gan y Gweilch, ond o fewn munudau roedd y tîm o Gymru saith pwynt ar y blaen unwaith eto yn dilyn cic gosb lwyddiannus.
Wedi hanner awr o chwarae daeth cais i'r Albanwyr gan Blair Kinghorn, ac roedd Tovey'n llwyddiannus wrth unioni'r sgôr.
Ychwanegodd cyn-faswr y Dreigiau ddau gic arall i roi'r tîm cartref chwe phwynt ar y blaen ar yr egwyl.
Fe wnaeth cais arall, y tro hwn i Nathan Fowles, roi hwb pellach i Gaeredin ar ddechrau'r ail hanner, cyn Tovey sgorio a throsi i'w gwneud hi'n 30-10 wedi 56 munud.
Roedd yna sgôr pellach i Gaeredin ar ddiwedd y gêm wrth i Magnus Bradley sgorio cais, gyda Tovey yn trosi'n llwyddiannus unwaith eto.
Dyw'r Gweilch bellach ddim wedi ennill oddi cartref ers mis Mawrth.