Llofruddiaethau Abertyleri: Cais i adfer beddau merched
- Cyhoeddwyd

Cafodd Freda Burnell a Florrie Little eu claddu ym mynwent Brynithel
Mae cais wedi ei wneud i adfer beddau dwy ferch ysgol o Flaenau Gwent gafodd eu llofruddio bron i ganrif yn ôl.
Cafodd Freda Burnell a Florrie Little eu llofruddio gan Harold Jones - gweithiwr siop 15 oed yn Abertyleri - yn 1921.
Gan ei fod yn droseddwr ifanc chafodd Jones ddim ei grogi, ond yn hytrach cafodd orchymyn i dreulio oes yn y carchar.
Mae ymgyrch bellach ar droed i hel arian i adfer beddau'r ddwy ferch ym mynwent Brynithel.
Wedi'i ryddhau
Fe aeth Freda ar goll ar 5 Chwefror, ac fe gafodd ei chanfod yn farw'r diwrnod canlynol ar lwybr gerllaw.
Cafodd Jones ei arestio'r wythnos ganlynol a'i gyhuddo o lofruddiaeth, ond fe wadodd y cyhuddiadau ac fe gafodd ei ryddhau wedi'r achos ym mis Mehefin.
17 diwrnod yn ddiweddarach fe lofruddiodd ei gymdoges Florrie, oedd yn 11 oed, a chuddio ei chorff yn yr atig.
Cafodd ei arestio ac fe gyfaddefodd iddo gyflawni'r ddwy lofruddiaeth.

Fe gyfaddefodd Harold Jones i'r troseddau yn dilyn yr ail lofruddiaeth
Cafodd ei garcharu, a'i ryddhau ar barôl yn 1941.
Dywedodd Neil Milkin, sydd wedi sefydlu'r ymgyrch, ei fod wedi cael ei annog i wneud hynny ar ôl clywed pryderon teulu'r merched am gyflwr y beddau.