Dau lanc yn cael dedfryd o chwe blynedd am ddynladdiad dyn busnes yn y Rhyl
- Cyhoeddwyd

Bu farw Amarjeet Singh-Bhakar wedi digwyddiad yn Y Rhyl
Mae dau lanc 16 oed o'r Rhyl wedi cael eu hanfon i ganolfan gadw am chwe blynedd am ladd perchennog siop yn y Rhyl.
Yn wreiddiol roedd y ddau, na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol, wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ond fe wnaeth yr erlyniad dderbyn ple o ddynladdiad ar sail o ddiffyg bwriad.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Amarjeet Singh Bhaker, 37 oed ac yn wreiddiol o Fanceinion, wedi ei drywanu mewn ffrwgwd rhwng dau giang, un o'r Rhyl a'r llall o Fanceinion.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Goose y byddai'r ddau wedi derbyn cyfnod o 12 mlynedd pe baen nhw'n oedolion.
Dywedodd y barnwr: "Chi wnaeth gyflwyno cyllyll i'r sefyllfa dreisgar gan achosi marwolaeth un dyn ac anafiadau difrifol i ddyn arall."
Cafodd Mr Bhaker ei drywanu yn ei goes ac yn ei wddf.
Fe gafodd llanc arall 16 oed o ardal Fanceinion orchymyn adferiad 12 mis ar ôl pledio'n euog i ymddygiad treisgar.
Cafodd dau ddyn arall o Fanceinion ddedfrydau wedi eu gohirio.
Gwerthu cyffuriau
Y ddau oedd Mohanjeet Singh, 18 oed, brawd iau Mr Bhaker, ac Amar Bahakar Singh, 28, cefnder i Mr Bhaker a gafodd ei anafu yn ystod y ffrwgwd.
Cafodd Daniel Kenneth Swann, 44 oed o'r Rhyl ei garcharu am dair blynedd ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o ymddygiad treisgar.
Bydd cyhuddiad arall o fod a gwn ffug yn ei feddiant yn aros ar ei ffeil droseddol.
Yn ôl yr erlyniad roedd y ffrwgwd ar Rodfa Tywysog Edward ym mis Ebrill yn ymwneud â gwerthu a chyflenwi canabis yn dref.
Mewn gwrandawiad cynharach yn ymwneud â'r ffrwgwd fe wnaeth Ameer Wahid, 24 a Sanah Ullah, 31, y ddau o ardal Fanceinion bledio'n euog i gyhuddiad o ymddygiad bygythiol.
Cafodd Wahid ei ddedfrydu i bedwar mis o garchar ac Ullah, pum mis.