AS Ceidwadol yn gofyn am egluro goblygiadau Brexit
- Cyhoeddwyd

Mae AS Ceidwadol blaenllaw wedi ysgrifennu at ddirprwy Theresa May i ofyn am eglurhad o rai o oblygiadau Brexit i Gymru.
Daw llythyr cadeirydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan, David Davies AS at Damian Green wedi i'r pwyllgor lansio ymchwiliad i Brexit a'r effaith posib yng Nghymru ar amaethyddiaeth, masnach a dychwelyd pwerau i'r Cynulliad.
Ers i'r ymchwiliad gychwyn, mae'r pwyllgor wedi cynnal dwy sesiwn i glywed tystiolaeth.
Roedd y rhain yn canolbwyntio ar Fesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith hynny ar setliad datganoli Cymru, ac unrhyw newidiadau yn y dyfodol i bolisïau amaeth a masnach ar ôl Brexit.
Er nad yw ymchwiliad y pwyllgor wedi gorffen, mae nifer o faterion wedi codi dros y ddwy sesiwn, a dyna'r rheswm am y llythyr gan y cadeirydd at Mr Green, sy'n gweithio fel prif ysgrifennydd gwladol i Ms May.
Yn benodol, mae'r llythyr yn gofyn am eglurhad ar y pwyntiau canlynol:
Ydy Llywodraeth y DU wedi cwblhau asesiad risg i effaith Brexit ar Gymru, ac a oes modd rhannu hyn gyda'r Pwyllgor;
Pa bolisïau fydd yn cael eu datganoli heb angen cytundeb, a pha rai fydd angen cydsyniad gyda fframwaith y DU gyfan;
Pa mor aml fydd y Pwyllgor Cyd-Weinidogol (Trafodaethau Ewrop) yn cwrdd yn y dyfodol;
Beth yw'r model sy'n cael ei ffafrio gan y Llywodraeth i ymgynghori gyda'r seneddau datganoledig, a pha waith paratoi sy'n cael ei wneud ar gyfer modelau fframwaith llywodraethiant.
Dywedodd David Davies AS: "Wrth i'r Pwyllgor barhau i ystyried goblygiadau Brexit i amaeth, masnach a throsglwyddo pwerau i Gymru yn dilyn ymadawiad y DU o'r UE, byddwn yn croesawu ymateb gan y Prif Ysgrifennydd Gwladol ar y pwyntiau allweddol yma cyn y bydd Mesur Gadael yr UE yn dychwelyd i Dy'r Cyffredin.
"Bydd mewnwelediad i flaenoriaethau'r Llywodraeth a'i chynlluniau at y dyfodol yn hanfodol wrth i'n hymchwiliad barhau i ystyried y materion yma, casglu barn a gwneud argymhellion am y ffordd orau ymlaen i Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2017

- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2017
