Cofio 150 mlynedd ers trychineb lofaol Glynrhedynog

  • Cyhoeddwyd
Y gwaith glo yn Nglynrhedynog yn 1978Ffynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o’r llun,

Y gwaith glo yn Nglynrhedynog yn 1978

Dydd Mercher bydd trigolion un o bentrefi Rhondda Cynon Taf yn cofio trychineb glofaol a laddodd 178 o bobl 150 mlynedd yn ôl.

Ar 8 Tachwedd 1867 roedd dau ffrwydrad yng ngwaith glo Glynrhedynog wedi i nwyon naturiol gasglu yn y shafftiau dan y ddaear.

Roedd 54 o'r rheiny fu farw yn iau nac 18 oed.

Fe gymrodd hi dair wythnos i dynnu'r holl gyrff o'r pwll oherwydd bod yr amodau yno mor anodd.

Daeth cwest i'r casgliad mai nwy yn cronni dan ddaear oedd ar fai, ac o bosib bod fflamau agored gafodd eu defnyddio gan rai o'r glowyr wedi tanio'r nwy.

Eglwys Sant GwynnoFfynhonnell y llun, Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o'r rhai fu farw wedi eu claddu ym mynwent Eglwys Sant Gwynno yn Llanwynno

Dwy flynedd yn ddiweddarach bu farw 53 o lowyr eraill yn yr un pwll glo mewn ffrwydrad arall.

Bydd torch o flodau'n cael eu gosod yn Eglwys Llanwynno am 13:30 i gyd-fynd ag amser y ffrwydrad y diwrnod hwnnw 150 mlynedd yn ôl.

Fe fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal ger cofeb y glowyr ym Mharc Greenwod am 17:00, yna bydd gorymdaith i Gapel Penuel ble bydd cerddoriaeth gan gorau a Band Pendyrus.