Digwyddiad Caerdydd: Dau ddyn yn y ddalfa

  • Cyhoeddwyd
crwys road

Fe ddywed Heddlu De Cymru fod swyddogion arfog wedi cael eu gyrru i ddigwyddiad ar Ffordd Crwys yng Nghaerdydd.

Aeth nifer o geir heddlu a dau ambiwlans i'r safle, ac roedd hofrennydd yr heddlu hefyd uwchben y digwyddiad.

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod o tua dwy awr wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.

Yn ddiweddarach daeth cadarnhad gan Heddlu'r De bod dau ddyn 49 a 60 oed o ardal Sblot yn y ddinas wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynhyrchu canabis.

Dywedodd un llygad dyst wrth ohebydd BBC Cymru fod heddlu arfog wedi mynd i siop yno, a bod siopau'r ochr arall i'r ffordd wedi cael cyfarwyddyd i gloi eu drysau ac aros i mewn.

crwys