Dau yrrwr o Ynys Môn yn euog o achosi marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Robert Idris LlewellynFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Robert Idris Llewellyn, 70 oed o ardal Rhoscolyn yn y fan a'r lle yn dilyn wedi' gwrthdrawiad ar 5 Ebrill

Mae dau ddyn o Ynys Môn wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth seiclwr 70 oed drwy yrru'n ddiofal.

Bu farw Robert Idris Llewelyn wedi gwrthdrawiad ar y B5109 yn Nhrefor ger Bodedern fis Ebrill y llynedd.

Yn wreiddiol roedd Kevin Graham Woods, 62 oed, o Lanrhwydrys ger Cemaes a Tomos Rhys Wheldon Williams, 32, o Lanfwrog ger Caergybi wedi eu cyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Ddydd Iau yn Llys y Goron yr Wyddgrug fe blediodd y ddau yn euog i drosedd llai difrifol o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Roedd Williams yn gyrru Ford Transit a Woods yn gyrru Skoda Octavia pan fu gwrthdrawiad.

'Achos difrifol'

Dywedodd y barnwr, Rhys Rowlands y byddai'r ddau yn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth cyn eu dedfrydu ar 30 Tachwedd yn Llys y Goron Caernarfon.

"Maer' achos yn parhau yn un difrifol ac mae'n rhaid i chi fod yn barod ar gyfer bob posibilrwydd wrth eich dedfrydu," meddai.

Bu farw Mr Llewellyn, 70, o ardal Rhoscolyn yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mewn datganiad wedi ei farwolaeth dywedodd ei deulu fod Mr Llewelyn yn "dad, taid a gŵr oedd yn meddwl llawer i ni."

"Roedd yn ysbrydoliaeth i nifer o bobl, a bydd yn golled fawr."