Cymru v Awstralia: Gatland i 'arbrofi' yn ystod y gyfres

  • Cyhoeddwyd
Warren GatlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland yn gobeithio sicrhau buddogoliaeth gyntaf Cymru dros Awstralia ers bron i ddegawd

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi dweud ei fod yn bwriadu arbrofi gyda steil y tîm yn y gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Roedd sawl un yn feirniadol o dactegau Gatland pan oedd yn hyfforddi tîm y Llewod ar eu taith yn Seland Newydd am y ffordd greadigol oedd yn ceisio chwarae yng nghanol y cae.

Dywedodd Gatland ei fod "wedi siarad gyda'r chwaraewyr a Rob Howley i geisio cyfuno chwaraewyr crys rhif 10 a 12."

Ychwanegodd ei fod yn teimlo fod ganddo "chwaraewyr sy'n gallu chwarae mewn ffordd fwy ymledol" bellach yn y garfan.

Mae Cymru'n gobeithio dod â rhediad siomedig o golli yn erbyn Awstralia i ben wrth iddyn nhw ymweld â Stadiwm Principality ar gefn rhediad 12 buddugoliaeth yn olynol yn erbyn Cymru.

Mae disgwyl torf enfawr ar gyfer y gêm sy'n golygu bydd nifer o strydoedd Caerdydd ar gau am rhai oriau cyn y gêm.

Cefnogwyr RygbiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl dros 70,000 o gefnogwyr yn Stadiwm y Principality gyda mwy yn ymweld â Chaerdydd i fwynhau awyrgylch y gêm

Mae Gatland wedi cyhoeddi bydd Cymru yn chwarae gyda dau chwaraewr creadigol yng nghanol cae, gyda Dan Biggar fel maswr ac Owen Williams yn ganolwr.

Ni fydd Sam Warburton, George North, Justin Tupuric na Rhys Webb ar gael i Gymru, sydd wedi agor y drws i chwaraewyr ifanc fel Steff Evans a Josh Navidi geisio creu argraff cyn cystadleuaeth Cwpan y Byd yn 2019.

Bydd Leon Brown, Sam Cross ac Owen Watkin hefyd yn gobeithio ennill eu capiau rhyngwladol cyntaf i Gymru, os cân nhw ddod oddi ar y fainc.

Bygythiad Awstralia

Un her i Gymru fydd ceisio cadw capten Awstralia, Michael Hooper yn dawel.

Mae perfformiadau diweddar Hooper, yn enwedig yn y gemau prawf, wedi bod yn arbennig.

Wedi'r gêm yn erbyn Awstralia, fe fydd Cymru yn wynebu Georgia, Seland Newydd a De Affrica fel rhan o'r gyfres.

Josh NavidiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Josh Navidi yn dechrau'r gêm i Gymru

Mae Cyngor Caerdydd yn cynghori cefnogwyr sydd â thocyn i gyrraedd y brifddinas yn gynnar, gan y bydd archwiliadau diogelwch mewn grym y tu allan i'r stadiwm.

Mae Trenau Arriva Cymru yn cynghori cwsmeriaid sy'n mynd i'r gêm i deithio ar y gwasanaeth cyntaf posibl i Gaerdydd, gan y bydd y gwasanaeth yn brysur iawn drwy'r dydd.

Gofynnir i gwsmeriaid brynu eu tocyn cyn mynd ar y trên a phrynu tocyn ar gyfer y daith yn ôl os ydyn nhw'n bwriadu teithio yn ôl ar y trên.

Bydd pob un o'r ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau yn ystod gêm rhwng 13:45 ac 20:15 gyda gatiau i'r stadiwm yn agor yn gynt na'r arfer am 14:15 cyn i'r gêm ddechrau am 17:15.

Caerdydd CanologFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trenau Arriva Cymru yn annog pobl i brynu tocynnau cyn cychwyn teithio i Gaerdydd

line break

Y ffyrdd fydd ynghau yng nghanol y ddinas:

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.

  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).

  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).

  • Heol Saunders o'i gyffordd â Heol Eglwys Fair.

  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).

  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sydd yn arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.

  • Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.