Toriadau heddlu'n 'arwain at gipio llai o gyffuriau'

  • Cyhoeddwyd
DrugsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae toriadau i'r heddlu wedi arwain at gwymp yn y cyffuriau sy'n cael eu cipio oddi ar strydoedd Cymru, medd un cyn-uwch swyddog.

Yn 2016-17, fe gafodd 7,759 o gyrchoedd cipio cyffuriau eu cynnal gan heddluoedd Cymru, sydd 16% yn llai na'r flwyddyn flaenorol yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Gartref.

Dywedodd cyn-Ddirprwy Brif Gwnstabl heddlu Gogledd Cymru, Clive Wolfendale - sydd bellach yn rhedeg elusen gyffuriau Cais - bod swyddogion wedi'u hymestyn at yr eithaf.

Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud eu bod yn mabwysiadu dull clyfrach i fynd i'r afael â delio cyffuriau.

Daw hyn wrth i ffigyrau eraill gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddangos bod nifer y bobl sy'n marw o wenwyn cyffuriau ar ei uchaf yng Nghymru a Lloegr ers dechrau cadw cofnodion yn 1993.

Pryderus

Dywedodd Mr Wolfendale ei fod yn bryderus nad oes digon o blismyn i daclo problemau cyffuriau.

"Dydyn ni ddim wedi gweld lleihad ym maint y cyffuriau ar y strydoedd, ac mae'n debyg ei fod mor uchel ag y mae wedi bod erioed," meddai.

"Fel arfer mae faint o gyffuriau sy'n cael eu cipio yn gysylltiedig â faint o ymdrech y mae heddluoedd yn gallu ei roi i weithredu'r gyfraith.

"Y gwir amdani yw bod heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi'u hymestyn i'r eithaf, ac mae llai o swyddogion yn gorfod delio gyda mwy o fygythiadau fel terfysgaeth a materion yn ymwneud â throseddau digidol.

"I mi, mae gweithredu'r ddeddf yn gorfod bod yn rhan allweddol o strategaeth gyffuriau synhwyrol, felly mae hyn yn bryder."

  • Heddlu Gogledd Cymru: 1,083 o gyrchoedd cyffuriau - i lawr 22%;

  • Heddlu Dyfed Powys: 1,969 o gyrchoedd - i lawr 19%;

  • Heddlu Gwent: 1,079 o gyrchoedd - i lawr 16%;

  • Heddlu De Cymru: 3,628 o gyrchoedd - i lawr 12%.

'Canolbwyntio ar ddelwyr mawr'

Dywedodd Martin Blakebrough, prif weithredwr elusen gyffuriau Kaleidoscope yng Nghasnewydd, ei fod yn gobeithio bod lleihad yn nifer y cyrchoedd cipio yn ganlyniad i'r modd y mae'r mater yn cael ei blismona.

"Dydyn nhw ddim o reidrwydd yn mynd ar ôl bob deliwr lefel isel, a dydw i ddim yn credu y dylien nhw fod," meddai.

"Dyw mynd ar ôl bob llanc 18 oed gyda chanabis ddim yn mynd i ddatrys y broblem. Hoffwn feddwl bod yr heddlu'n canolbwyntio mwy ar y delwyr mawr, ac mewn rhai ardaloedd mae yna dystiolaeth o hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De eu bod yn defnyddio "pob dull o fewn ein gallu i atal tyfu, cyflenwi a gwerthu bob cyffur anghyfreithlon er mwyn gwneud ein cymunedau yn fwy diogel".

"Mae casglu gwybodaeth gan y cyhoedd wedi arwain at sawl cyrch ar draws y de, gan arwain yn ei dro at gipio cyflenwad sylweddol o gyffuriau," ychwanegodd.

Mae'r tri llu arall wedi cael cais am ymateb.