Digwyddiadau i nodi Sul y Cofio ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal drwy'r wlad i nodi Sul y Cofio.
Bydd aelodau o'r lluoedd arfog yn gorymdeithio i'r Gofeb Ryfel Genedlaethol yng ngerddi Alexandra ym Mharc Cathays, Caerdydd ar gyfer gwasanaeth am 11:00.
Dywedodd arweinydd cyngor y ddinas, Huw Thomas, ei fod yn gyfle i'r genedl "barchu'r rhai fu'n ymladd ac a fu farw" mewn brwydrau.
Mae 10,000 o groesiau wedi eu gosod ym Maes Coffa Castell Caerdydd.

Milwyr yn gorymdeithio yng Nghaerdydd

Bydd Maes Coffa Castell Caerdydd ar agor tan 18 Tachwedd

Gorymdaith drwy Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin
Cofeb y Ffiwsilwyr Cymreig ym Modhyfryd oedd canolbwynt y cofio yn Wrecsam, tra bo'r Lleng Brydeinig yn cyfrifol am drefnu gorymdaith goffa yn Aberystwyth.
Yng Ngwynedd, roedd gorymdaith a gwasanaeth yn yr eglwys Gadeiriol ym Mangor, ac yn Abertawe, roedd y brif seremoni yn y Senotaff.
Ac yn y Senotaff yn Llundain, bydd gwirfoddolwyr o Urdd Sant Ioan Cymru ymhlith cynrhychiolwyr o Gymru fydd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth hwnnw.