Rygbi13: Cymru 6-34 Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi gorffen eu hymgyrch yng Ngwpan Rygbi 13 y Byd gyda cholled drom arall, y tro hwn yn erbyn Iwerddon.
Roedd gan y tîm lawer i'w brofi wedi iddyn nhw gael eu chwalu gan Papua Guinea Newydd o 50-6, cyn cael crasfa go iawn gan Fiji o 72-6.
Ond, doedd pethau fawr gwell yn eu gêm olaf fore Sul, yn ildio chwe chais, gyda Ben Morris yr unig un i groesi'r llinell dros y crysau cochion.

Api Pewhairangi a chais cyntaf Iwerddon
Wedi'r gêm, dywedodd hyfforddwr Cymru, John Kear, ei fod yn siomedig nad oedd ganddyn nhw garfan gryfach ar gyfer y bencampwriaeth, ond eu bod wedi ceisio gwneud y gorau o'r hyn oedd ganddyn nhw.
Mae record wael Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn parhau felly, heb ennill gêm yn y bencampwriaeth ers 2000.