Pedwar wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae pedwar o bobl wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng pedwar car ym Mhowys.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De eu galw i'r digwyddiad ar ffordd yr A483 ger Arddlin tua 13:30.
Mae'r ffordd ynghau i'r ddau gyfeiriad rhwng cylchfan yr A458 a'r B4392.
Cafodd ambiwlans awyr ei anfon i'r gwrthdrawiad.