Apêl wedi marwolaeth beiciwr modur ar yr A470
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A470 ger Dinas Mawddwy
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol ar yr A470 ddydd Sul.
Cafodd yr heddlu eu galw am 15:22 wedi adroddiad o ddigwyddiad yn ymwneud â beic modur ger Dinas Mawddwy.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ei alw ond roedd gyrrwr y beic modur wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae teulu'r gŵr wedi eu hysbysu.
Dywedodd y Rhingyll Steve Richards o'r Uned Plismona Ffyrdd eu bod yn cydymdeimlo â theulu'r gwr, ac apeliodd am wybodaeth gan dystion: "Roedd y beiciwr, a oedd yn gyrru beic modur Honda du, yn teithio ar yr A470 tuag at Dolgellau, ac felly rydym yn apelio ar unrhyw un allai fod â ffilm dash cam o'u cerbydau i gysylltu â ni."