Cyhoeddi Llyfr y Flwyddyn 2017

  • Cyhoeddwyd
Caryl Lewis 2016Ffynhonnell y llun, Ffotograffiaeth Sioned a Nia
Disgrifiad o’r llun,

Caryl Lewis enillodd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn 2016 am ei nofel 'Y Bwthyn'. Mae hi wedi ei henwebu unwaith eto eleni yn y categori Ffuglen

Bydd enillwyr gwobr Llyfr y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yn y Tramshed, Caerdydd nos Lun.

Mae naw cyfrol Gymraeg a gyhoeddwyd yn ystod 2016, wedi sicrhau eu lle ar restr fer 2017, mewn tri chategori gwahanol: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.

Mae 10 gwobr, gyda chyfanswm o £12,000 ar gael i'r awduron llwyddiannus. Yn y Gymraeg ac yn Saesneg mae tri enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.

Thomas MorrisFfynhonnell y llun, Ffotograffiaeth Sioned a Nia
Disgrifiad o’r llun,

Roedd na drindod o wobrau i Thomas Morris am ei nofel 'We Don't Know What We're Doing' yn 2016

Y panel beirniadu Cymraeg eleni oedd y beirniad llenyddol Catrin Beard, y bardd a'r awdur Mari George ac Eirian James, perchennog siop lyfrau yng Nghaernarfon.

Yr awdur Tyler Keevil, yr academydd Dimitra Fimi a'r bardd Jonathan Edwards oedd yn gyfrifol am feirniadu'r llyfrau Saesneg.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o £3,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith.

Fe fydd modd dilyn y seremoni ar lif byw arbennig Cymru Fyw am 19:00 nos Lun. Bydd oriel luniau o'r noson yn ymddangos ar ein gwefan hefyd.

Straeon perthnasol