Penodi Leon Britton yn is-hyfforddwr ar Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae'r chwaraewr canol cae Leon Britton wedi ei benodi'n is-hyfforddwr Abertawe.
Daw ei benodiad wythnos wedi i Claude Makelele adael y clwb i gymryd yr awenau yn KAS Eupen yng Ngwlad Belg.
Fe fydd Britton - sydd wedi chwarae dros 500 o weithiau dros yr Elyrch - yn parhau â'i rôl fel chwaraewr.
Ond bydd yn ildio'r gapteniaeth wrth iddo gamu i'w swydd newydd.
Dim ond pedair o weithiau mae Britton wedi chwarae dros y clwb yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2017
