'Angen arolygu canolfannau anifeiliaid gwyllt Cymru'

Mae angen arolwg o holl ganolfannau anifeiliaid gwyllt Cymru a Lloegr yn ôl Cymdeithas y Milfeddygon.

Daw'r alwad ar ôl i Ganolfan Anifeiliaid y Borth gael ei beirniadu am farwolaeth ail gath lyncs ewrasiaidd.

Mae Ymddiriedolaeth Lyncs y Deyrnas Unedig wedi galw ar Gyngor Ceredigion i gau'r sw.

Yn ôl y perchnogion, maen nhw'n benderfynol o sicrhau bod y fenter yn llwyddo.

Dyma adroddiad Mari Grug.