Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn 'tyfu bob blwyddyn'

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod ffermwyr ifanc 2016Ffynhonnell y llun, Betsan Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dawnswyr yn yr Eisteddfod a gafodd ei chynnal yn Neuadd y Brangwyn y llynedd

Mae Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn parhau'n boblogaidd, medd cadeirydd yr ŵyl eleni.

Llandudno yw'r lleoliad y tro yma ac yn ôl Bethan Williams mae'r "neuaddau wedi eu llenwi" yn flynyddol.

"Ambell dro mae rhywun yn teimlo does 'na'm digon o le i bawb ynddyn nhw," meddai.

"Yn bersonol dwi'n gweld y 'steddfod yn tyfu bob blwyddyn achos 'dan ni'n sicr fel sir yn gorfod cychwyn 'bach cynt, a 'dan ni'n gorffen reit hwyr achos bod 'na gystadlu o safon uchel iawn."

Magu hyder

Er bod 'na gyfle i bobl ifanc gystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd, mae'n teimlo'i bod hi'n bwysig bod gan Fudiad y Ffermwyr Ifanc ei heisteddfod ei hun.

"Efallai bod 'na rhai pobl sydd ddim efo cymaint o hyder i gystadlu yn 'Steddfod yr Urdd neu'r 'Steddfod Genedlaethol a bod nhw'n magu hyder wrth gystadlu fwy efo'r ffermwyr ifanc," meddai Ms Williams, 28, sydd hefyd yn is-arweinydd ar y clwb ffermwyr ifanc yng Nghaernarfon.

Yn 2012 roedd cwynion ynglŷn â chynnwys Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc gyda rhai yn dweud bod un o'r deuawdau doniol yn hiliol ac un arall yn ddilornus i ferched.

Hwyl 'yn bwysig'

Tra'i bod hi'n meddwl "ella' bod rhai pobl yn meddwl mwy cyn bod nhw'n 'sgwennu," mae'n dweud nad yw'r hyn ddigwyddodd adeg hynny wedi golygu bod yr hwyl wedi diflannu o'r eisteddfod.

"Os ydy pobl ddim yn mynd i fod efo meddyliau agored dwi'm yn meddwl bysa' chi'n gallu cynnal y gystadleuaeth achos fysa' bob dim yn mynd yn rhy serious wedyn."

"A dwi'n meddwl bod yr elfen o hwyl 'na yn bwysig, bwysig iawn."

Canu Emyn, Unawd Sioe Gerdd, Meim a Sgetsh yw rhai o'r cystadlaethau poblogaidd fel arfer ac eleni mae pob sir heblaw dwy yn cystadlu yn y categori corau.

"Felly 'dan ni'n disgwyl bydd 'na 10 côr ddydd Sadwrn," meddai.

SelffieFfynhonnell y llun, Betsan Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cystadleuwyr y llynedd

Hanner nos yw'r adeg mae popeth fod dod i ben ar y dydd Sadwrn, sydd weithiau yn her, yn ôl Ms Willaims, gan fod y cystadlu yn gallu mynd yn ei flaen yn hirach.

Ond mae'n bendant iawn y bydd y diwrnod yn dechrau ar yr amser cywir.

"Mi fydda' i ar y llwyfan am 10:00 yn agor y 'steddfod. Dwi 'di deud hynna!"

Straeon perthnasol