Pennaeth ysgol yn pryderu am gostau sefyll arholiadau
Mae pennaeth ysgol ym Mro Morgannwg wedi dweud ei fod yn yn pryderu am orfod talu mwy bob blwyddyn er mwyn i ddisgyblion sefyll arholiadau.
Dywedodd Hywel Price na all ei ysgol fforddio trwsio'r boeler.
Mae ffioedd CBAC yn codi hyd at 5% yn flynyddol, er bod llawer o ysgolion yn cael llai o gyllid gan gynghorau sir.
Mae Llywodraeth Cymru a CBAC wedi pwysleisio bod cefnogi ysgolion yn hollbwysig.
Dyma adroddiad Ellis Roberts.