Carcharu saith aelod o grŵp masnachu cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Rhes uchaf, chwith i'r dde: John Knight, Richard Phillips, Anthony Vobe; Rhes waelod, chwith i'r dde: Lyndon Evans, Lec Gjoka, Stuart Jarman, Jason Theobald
Mae saith o ddynion wedi cael eu carcharu am eu rhan yn y fasnach gyffuriau rhwng Llundain a Chaerdydd.
Fe gafodd un o'r saith - Stuart Jarman - ei ddal gyda 2kg o gocên ar yr M4 ym mis Mawrth.
Roedd 80% o'r cocên hwnnw'n bur, gyda gwerth o £450,000 ar y stryd.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod arestio Jarman wedi arwain at y chwe aelod arall o'r criw a dwy ffatri ganabis - un yn Rhydaman, Sir Gâr, a'r llall yn Waunarlwydd, Abertawe.

Cafodd y saith eu carcharu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener:
Stuart Jarman, 41 o Rymni: Chwe mlynedd am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A;
Lec Gjoka, 42 o Lundain: 14 mlynedd am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A;
Jason Theobald, 42 o Rymni: 10 mlynedd am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A;
Lyndon Evans, 37 o Rydaman: Naw mlynedd am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a chynllwynio i gyflenwi canabis;
John Knight, 36 o Pentre: 18 mlynedd am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a chynllwynio i gyflenwi canabis;
Anthony Vobe, 41 o'r Garnant; Tair blynedd am gynllwynio i gyflenwi canabis;
Richard Phillips, 51 o Waunarlwydd, Abertawe: Dwy fwy flynedd a hanner am feddu ar arf tanio tra ei fod wedi ei wahardd a chynllwynio i gynhyrchu canabis.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dros Dro Steve Gardner o Heddlu De Cymru: "Mae'r dedfrydau heddiw yn ganlyniad i ymchwiliad hirdymor i gyflenwi cyffuriau rheoledig Dosbarth A a Dosbarth B gan droseddwyr a oedd yn cael dylanwad sylweddol ar gymunedau De Cymru, er bod y mwyafrif ohonynt yn byw y tu allan i ardal Heddlu De Cymru.
"Roedd y grŵp trosedd hwn yn drefnus, yn gyfrwys, yn broffidiol iawn ac yn hollol anystyriol o'r cymunedau y byddai eu cyffuriau yn cael eu gwerthu ynddynt."