Galw am ariannu lloches dynion Sir y Fflint sy'n dioddef trais
- Cyhoeddwyd

Mae mudiad yn Sir y Fflint sy'n rhoi lloches i ddynion sy'n dioddef o drais yn y cartref yn galw am fwy o gyllid wrth i'r defnydd ohoni gynyddu.
Mae Uned Diogelwch Trais Teuluol yn Sir y Fflint yn gweithio gyda dynion a merched, a'r lloches i ddynion yw'r un o'r ychydig rai o'i math yn y gogledd.
Ers agor y lloches 18 mis yn ôl mae'r galw ar ei gwasanaeth wedi bod yn sylweddol.
Ar hyn o bryd, dim ond lle i ddau ddyn sydd yno ar y tro, ac mae'r cyllid ar gyfer hynny'n dod i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Does dim lle chwaith i gartrefu plant hefyd fel eu bod gyda'u tadau.
'Anoddach i ddynion'
Yn ôl un o'r ymddiriedolwyr, Natasha Jones, mae'r lloches wedi bod yn llawn ers y diwrnod cyntaf.
Dywedodd: "Da'n ni wedi gorfod troi nifer o bobl i ffwrdd. Mi fuasen ni wedi gallu llenwi'r noddfa bedair gwaith drosodd.
"Dydy o ddim yn fy synnu i, mae trais teuluol yn gyfrinachol a dydy pobl ddim eisiau sôn. Mae'n anoddach i ddynion siarad am y peth."
Ychwanegodd bod "amgylchiadau pawb yn wahanol" a heb y ganolfan byddai rhai yn ddigartref, neu eraill yn gorfod aros mewn perthynas dreisiol.
"Mae'r dynion weithiau wedi dioddef trais gan bartner benywaidd neu bartner gwrywaidd ond y peth sydd yr un fath i bob un yw nad oes ganddyn unrhyw le arall i fynd."
Dywedodd Ms Jones ei bod yn bwysig iawn bod y lloches wedi agor, ond mai'r hyn sy'n ei gofidio'n fawr yw bod y cyllid yn dod i ben y flwyddyn nesaf.
"Mae'n andros o bwysig bod y ddarpariaeth yma ar gael," meddai.
"Dim ond codi'r ffôn sydd eisiau neu edrych ar y we.
"Mae'n beth caled i'w wneud ond dwi'n addo y bydd person sy'n dallt ac yn wir eisiau helpu yna i chi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2017
