Bachgen 'chwilfrydig' wedi chwilio am derfysgaeth ar y we

  • Cyhoeddwyd
BirminghamFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yn Llys y Goron Birmingham mae'r achos

Mae bachgen ysgol sydd wedi'i gyhuddo o gynllunio ymosodiad terfysgol yng Nghaerdydd yn dweud iddo ond chwilio am bynciau "erchyll" ar y we oherwydd ei fod yn chwilfrydig.

Dywedodd y bachgen 17 oed nad oedd yn bwriadu cyflawni unrhyw weithred derfysgol, a'i fod wedi chwilio ar y we am syniadau ar sut i gynnal ymosodiad dim ond er mwyn gweld pa mor hawdd oedd canfod deunydd eithafol.

Dywedodd y llanc, sydd o gefndir gwyn Prydeinig, nad oedd yn berchen copi o'r Koran, ei fod yn bwyta ham, ac nad oedd yn credu mewn Islam.

Mae'r bachgen, sydd methu cael ei enwi oherwydd ei oed, yn gwadu paratoi i gyflawni gweithred o derfysgaeth, a phedwar cyhuddiad arall yn ymwneud â therfysgaeth.

'Safbwynt rhywun arall'

Pan ofynnwyd iddo gan fargyfreithiwr yr amddiffyniad, Delroy Henry pam ei fod wedi chwilio ar y we am fanylion am y terfysgwr sy'n cael ei adnabod fel Jihadi John, dywedodd: "Roeddwn i'n chwilfrydig, achos 'nes i weld e ar y newyddion ac roeddwn i eisiau gwybod pwy oedd e."

Cyfaddefodd y bachgen ei fod wedi chwilio ar y we am "sut i greu ymosodiad terfysgol", ond dim ond er mwyn gweld "pa mor hawdd oedd e i bobl oedd gyda diddordeb mewn terfysgaeth".

"Roeddwn i eisiau gweld os oedd e'n bosib, nid i mi ond o safbwynt rhywun arall," meddai.

Ychwanegodd yn ei fod wedi teimlo'n "reit drist" yn dilyn ymosodiad Westminster Bridge, a'i fod wedi chwilio ar-lein i weld sut ymateb oedd wedi bod i'r trychineb yn yr Unol Daleithiau.

Justin BieberFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y bachgen wedi chwilio am fanylion tefniadau diogelwch cyngerdd Justin Bieber yng Nghaerdydd

Mae Llys y Goron Birmingham eisoes wedi clywed fod y bachgen wedi'i arestio ar 30 Mehefin eleni wedi iddo chwilio am fanylion trefniadau diogelwch cyngerdd Justin Bieber oedd yn digwydd yng Nghaerdydd.

Cafodd morthwyl a chyllell hefyd eu canfod yn ei fag ysgol.

Dywedodd yr erlyniad fod y bachgen wedi ysgrifennu llythyr "merthyrdod" oedd yn gorffen gyda'r geiriau: "Yn enw Allah, gobeithio y bydd terfysgaeth yn dod i'ch gwlad. Galwn am fwy o ymosodiadau ffrwydrol a chyda cherbydau, gyda chaniatâd Allah."

Mae'r achos yn parhau.