Cian Ciarán a byd y chwedlau
- Cyhoeddwyd

Mae Cian Ciarán yn un o gerddorion amlycaf Cymru a Rhys a Meinir yw un o'n straeon caru enwocaf. Sut felly y daeth y diwylliant roc a byd chwedloniaeth at ei gilydd?
Mae allweddellwr y Super Furry Animals wedi creu dehongliad newydd o'r stori trwy gyfuno cerddoriaeth glasurol, barddoniaeth, animeiddio a ffilm archif.
Eglurodd Cian beth wnaeth ysbrydoli'r gwaith fydd i'w weld a'i glywed ar S4C ar 30 Tachwedd ar S4C:


Mae rhan o berfformiad Rhys a Meinir wedi ei animeiddio
Gan Dad 'nes i glywed y chwedl am y tro cyntaf, ac mi wnaeth argraff fawr arna i. Mae'n stori syml, ond yn un fyddai lot yn uniaethu â hi.
Mi ro'n i'n cyfansoddi ar y piano ac mi oedd y darn cerddoriaeth yn fy atgoffa o'r chwedl, neu falle yn yr isymwybod mi wnaeth Rhys a Meinir ysbrydoli'r cyfansoddi!
Es i ati wedyn i adeiladu ar y cyfansoddiad wnes i ar y piano a meddwl am elfennau eraill fyddai'n gallu cryfhau emosiwn y chwedl.
Mae'r bardd Gruffudd Antur wedi 'sgwennu englynion yn arbennig ar gyfer y ffilm ac mae cael gweithio efo cerddorion amrywiol o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi rhoi deinamig hudolus i'r perfformiad.

Roedd cydweithio efo Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn anhygoel, a dwi mor ddiolchgar am y cyfle. 'Nes i ddysgu dipyn a sylweddoli faint o fanylder oedd ei angen er mwyn mynegi'r hyn oedd yn fy nghyfansoddiad gwreiddiol ar y piano i rywbeth allai gael ei chwarae gan 84 o gerddorion.
Dydy chwedl ddim yn chwedl heb ei rhannu.