Casnewydd 1-2 Barnet

  • Cyhoeddwyd
casnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Er bod Barnet mewn trafferthion yng ngwaelod yr ail gynghrair, fe lwyddodd y tîm o ogledd Llundain i sicrhau'r fuddugoliaeth yn erbyn Casnewydd nos Fawrth.

Er i'r gêm orffen yn ddi-sgôr ar yr hanner, Casnewydd oedd y tîm cryfaf, ac fe ddaeth gôl gyntaf yr Alltudion ar ddechrau'r ail hanner.

Ond o fewn dau funud i gôl Ben White, fe lwyddodd John Akinde i benio'r bêl yn dilyn croesiad gan Jamal Campbell-Ryce, ac felly yn unioni'r sgôr.

Fe ddaeth ail gôl yr ymwelwyr yn ystod amser ychwanegol, gyda Shaquile Coulthirst yn dod a rhediad 14 gêm heb fuddugoliaeth i ben.

Dyma chweched gêm o'r bron i Gasnewydd fethu cipio'r tri phwynt, ac felly maent yn parhau yn y 10fed safle.