Yr artist o Gymru a'i fywyd newydd yn Yr Eidal

  • Cyhoeddwyd
dewi tudur

Cafodd yr artist Dewi Tudur ei eni ym Mangor yn 1957, cyn i'w deulu symud i'r Wyddgrug.

Wedi cyfnod byr fel athro celf yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, aeth ymlaen i Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, lle bu'n dysgu am bron i 30 mlynedd.

Yn ystod y 90au, law yn llaw â'i waith fel athro, dechreuodd arlunio ar gyfer Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd. Tirluniau dyfrliw o lefydd yng Nghymru, Sir Benfro gan amlaf.

Ond mae Dewi a'i wraig, Linda, bellach yn byw yn Yr Eidal.

"Mae 'na ramant yma yn Yr Eidal, i unrhyw un heb sôn am rhywun sy'n arlunydd," meddai.

"'Da ni yma yn byw yn y bryniau uwchben Fflorens mewn pentra bach o'r enw Donnini. 'Da ni'n dod o Donnini!"

Disgrifiad,

"'Da ni'n dod o Donnini!"

Mae Dewi wedi bod yn rhoi vlogs (dyddiadur ar ffurf fideo) ar YouTube, dolen allanol fel bod ei dad, sydd yn ei 90au ac sydd hefyd yn artist, yn gallu cael blas o'i fywyd yn Yr Eidal.

"Mi ddechreues i anfon rhyw cameos bychan i'n nhad nôl yng Nghymru. Fyntau fatha minnau wedi ei swyno hefo'r wlad.

"Yn raddol bach mi anfones ambell un nôl i'n ffrindiau ac wedyn penderfynu eu rhoi ar yr 'Iw tiwb'. Y bwriad ma'n siŵr ydi trio rhoi rhyw gipolwg ar fywyd dyddiol yma.

"Does dim amheuaeth bod yr ardal o amgylch ein cartref yn rhoi awen di-ddiwedd i mi gynhyrchu fy ngwaith.

"Mae'n chwip o oer yma yn y gaeaf a chwilboeth yn yr haf. Ma' hi'n wlad o eithafion ym mhob ystyr y gair."

Disgrifiad,

Trafod hanes Villa Pitiana, sydd ger pentref Donnini