Gweithwyr cwmni bysiau Express Motors, Penygroes yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Arwydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni bysiau Express Motors yn gweithredu ar hyd gogledd orllewin Cymru

Mae saith o ddynion wedi ymddangos o flaen llys yng Nghaernarfon, wedi eu cyhuddo o droseddau sy'n ymwneud a thwyll ariannol.

Fe gafodd Eric Wyn Jones, 76, o Bontnewydd, Ian Wyn Jones, 52, o Benygroes, Keith Jones, 50, o Landdaniel, Kevin Wyn Jones, 54, o Bontnewydd, Michael Munson, 51, o Lanllechid, Rheiunallt Williams, 43, o Ddeiniolen, ac Aled Wyn Davies, 41 oed, o Rosgadfan, eu rhyddhau ar fechnïaeth, ac mae disgwyl iddynt ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon ar 2 Ionawr.

Mae'r saith sy'n gysylltiedig â chwmni bysiau Express Motors ym Mhenygroes sy'n gweithredu ar hyd y gogledd orllewin.

Mae'r cyhuddiadau yn cynnwys gorchymyn eraill i gyfrif mwy o docynnau teithio rhad, nag oedd yn cael eu defnyddio mewn gwirionedd, er mwyn gwneud enillion anonest.

Fe wnaeth y cwmni gyflwyno ffurflenni hawlio arian ffug i Gyngor Gwynedd wrth geisio hawlio arian yn ôl.

Ni chyflwynwyd unrhyw ble yn y gwrandawiad ddydd Iau.

Straeon perthnasol