Troseddwr rhyw dal â 'hawliau rhiant'

  • Cyhoeddwyd
A photo of an anonymous familyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae mam i blant o dde Cymru gafodd eu cam-drin yn rhywiol gan eu tad yn galw am newid yn y gyfraith i ailystyried 'hawliau rhiant dros blant' rhywun sydd yn euog o droseddau rhyw difrifol.

Er i'r dyn gael ei garcharu am ei droseddau roedd wedi ceisio atal y plant rhag mynd ar wyliau gyda'u mam.

Dywedodd nad oedd yn rhoi ei ganiatâd fel rhiant i'r plant fynd i ynys Menorca.

Wrth siarad â BBC Cymru, bu'r fam yn esbonio pam ei bod eisiau newid y gyfraith.

Line

"Pan gafodd fy ngŵr ei garcharu am dros 12 mlynedd am gam-drin ein plant yn rhywiol, roeddwn i'n meddwl y byddai allan o'n bywydau am byth.

"Cafodd ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes, a'i wahardd rhag cysylltu gyda nhw fyth eto.

"Er hynny, mae wedi cadw hawliau rhiant drostyn nhw, sy'n golygu y gallai effeithio pob penderfyniad dwi'n ei wneud ynglŷn â'r plant.

"Yn dechnegol, gall ymyrryd yn y dewis o ba ysgol i'w gyrru nhw iddi, neu ofyn am gael gweld eu cofnodion meddygol neu adroddiadau ysgol."

Rhian a merch

Dywedodd y fam bod ei bywyd hi a'r plant yn cael ei reoli gan dad y plant o'r carchar.

"Yn yr haf, fe wnes i drefnu i ni fynd ar wyliau am bythefnos i ni gael mwynhau o'r diwedd.

"Ond mae'n rhaid iddo gael gwybod am hynny rhyw ffordd, achos fe ges i lythyr gan ei gyfreithiwr yn fy nghyhuddo o "fynd â'r plant allan o'r wlad heb gael caniatâd eu tad".

"Roedd yn gofyn i ble roedden ni'n mynd a gyda phwy. Roeddwn i'n teimlo'n anobeithiol, ond yn fwy na hynny, roeddwn i'n teimlo ei fod yn mynd yn erbyn y gorchymyn llys.

"Nid yw e i fod i gael cysylltiad â'r plant, felly pam ddylai gael gwybod i le roedden ni'n mynd?

"Siaradais gyda'r Gwasanaeth Prawf a'r Asiantaeth Droseddau Genedlaethol, oedd yn teimlo ei fod yn gwbl amhriodol, ond roedd ganddo'r hawl fel rhiant.

"Yn y pendraw, aethon ni ar wyliau a ni ddigwyddodd unrhyw beth, ond achosodd boen a straen."

A photo of an anonymous familyFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y fam bod sawl esiampl arall, yn cynnwys brwydr yn y llys i gael newid cyfenwau'r plant, a'r ffaith bod ei gŵr yn gwrthod caniatáu iddi werthu eu cartref.

Dywedodd hefyd iddi symud o'r cartref, ond gan ei bod methu ei werthu, mae straen ariannol arni bellach.

"Fel mae hi, mae'r pwysau ariannol wedi bod yn ofnadwy, does gen i ddim hawl cael cymorth cyfreithiol, a dwi wedi gwario tua £10,000 ar achosion llys.

"Oherwydd yr hyn wnaeth o i'r plant, maen nhw wedi colli gymaint o reolaeth dros eu bywydau, ac felly dydyn nhw methu symud ymlaen.

"Mae ei hawliau o wedi cael blaenoriaeth dros eu rhai nhw dro ar ôl tro ac mae ganddo lefel o reolaeth sy'n erchyll o annheg.

"Gallwn i ddechrau achos llys i dynnu ei hawliau rhiant, ond does gen i ddim yr arian ac anaml mae'r llysoedd yn cytuno i wneud.

"Dyna pam dwi wedi gofyn i ASau Cymreig gamu i mewn."

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cael cais am ymateb.