Tân yn dinistrio gweithdy cwmni bysiau yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Tân

Mae tua 20 o ddiffoddwyr wedi bod yn delio gyda thân ar safle cwmni bysiau yng Ngheredigion.

Cafodd criwiau eu galw i weithdai cwmni Lewis Coaches yn Llanrhystud am tua 04:00 fore Gwener.

Bu'r diffoddwyr yn brwydro yn erbyn y fflamau am bedair awr cyn llwyddo i'w ddiffodd.

Mae'n debyg bod tri gweithdy wedi bod ar dân, a bod un o'r rheiny wedi'i ddinistrio'n llwyr.

Does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad.