Prifathro wnaeth ladd ei hun 'ddim wedi troseddu'
- Cyhoeddwyd

Roedd Huw Jones yn bennaeth yn Ysgol Gynradd Albert ym Mhenarth
Mae'r heddlu wedi dweud nad oedd prifathro oedd dan ymchwiliad am honiadau o fod â lluniau anweddus yn ei feddiant wedi cyflawni unrhyw droseddau.
Fe wnaeth Huw Jones, 51, oedd yn bennaeth ar Ysgol Gynradd Albert ym Mhenarth, Bro Morgannwg, gael ei ganfod yn farw mewn clos eglwys yn Larnog ger Sili ym mis Chwefror.
Fe glywodd cwest ddydd Mercher fod yr heddlu wedi rhoi rhybudd iddo a chymryd offer electronig o'i dŷ yng Nghaerdydd ddyddiau cyn ei farwolaeth.
Mae Heddlu'r De bellach wedi cadarnhau nad oedd eu hymholiadau "wedi canfod unrhyw droseddau".
Iselder
Mewn datganiad fe wnaethon nhw ychwanegu na gafodd Mr Jones ei arestio, ac maen nhw'n aros i glywed yn ôl gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi i'r achos gael ei gyfeirio atyn nhw yn dilyn ei farwolaeth.
Clywodd y cwest fod Heddlu De Cymru wedi cael clywed ar 30 Ionawr gan Heddlu De Swydd Efrog eu bod yn amau Mr Jones o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant.
Ar yr un diwrnod cafodd gyfarwyddyd i beidio â mynd i'r gwaith, ac i fynychu cyfarfod yn Neuadd y Sir y diwrnod canlynol.
Yn ddiweddarach y noson honno cafodd yr heddlu warant i chwilio'i dŷ, ond clywodd y cwest nad oedd pryderon ynglŷn â'i ddiogelwch.

Cafodd corff Huw Jones ei ganfod yng nghlos eglwys St Lawrence yn Larnog
Ond ni wnaeth Mr Jones fynychu'r cyfarfod, ac fe gafodd ei gorff ei ganfod ar 1 Chwefror.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Emma Hampton wrth y crwner ei bod wedi mynd draw i chwilio tŷ Mr Jones gyda swyddogion eraill, a phan oedden nhw yno fe ddywedodd: "Rwy'n hoff o ddynion ifanc."
Fe wnaeth hi roi rhybudd iddo ac roedd e'n ymddangos yn nerfus, gan ofyn "yw e'n anghyfreithlon i siarad".
Clywodd y cwest fod Mr Jones yn cymryd meddyginiaeth oherwydd iselder pan fu farw.
'Wedi bwriadu'
Dywedodd y dirprwy bennaeth Gaynor Haldenby fod Mr Jones yn oriog yn y gwaith a bod y llwyth gwaith yn mynd yn ormod iddo.
Ychwanegodd ei fod yn ei chael hi'n anodd ymdopi â bod yn hoyw, ei fod yn cael perthnasau â dynion iau, a'i fod wedi dechrau mynychu Eglwys Bedyddwyr Tabernacl ble roedd yn gobeithio cael ei dderbyn.
Yn rhoi tystiolaeth i'r gwrandawiad dywedodd llywodraethwyr yr ysgol eu bod wedi cael gwybod nad oedd Mr Jones wedi cyflawni trosedd, ond y dylai gael ei wahardd oherwydd bod honiad yn ymwneud â diogelwch wedi ei wneud.
Dywedodd crwner de Cymru, Philip Spinney fod yr heddlu wedi canfod nodyn ganddo yn dweud ei fod yn ymddiheuro am beth wnaeth e.
Ychwanegodd Mr Spinney ei bod yn amlwg ei fod wedi bwriadu lladd ei hun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017
